Title card for Goriad y Gorllewin

Croeso Cynnes i Wefan Goriad y Gorllewin

Bob mis, byddan ni’n cyhoeddi casgliad o bosau, barddoniaeth ag erthyglon o ddiddordeb i’r rhai yng Nghanada a’r UDA sy’n medru’r Gymraeg. Bwriad y llythyr newyddion hyn yw i roi cyfle i bobl Gymraeg ein cyfandir rannu ein hiaith a’n profiadau wrth ei dysgu a’i defnyddio fel rhan o’n bywydau beunyddiol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfrannu â’r Goriad, ysgrifennwch nodyn sydyn aton ni ar goriad@curiosityshop.us yn cynnwys manylion eich cyfraniad neu gopi sy’n barod i’w gyhoeddi. Os yw’r ddarn yn addas i’r llythyr, byddan ni’n gadael ichi wybod. Yn anffodus, nid oes taliad ar gael ar hyn o bryd, felly yr unig wobr yw gweld eich enw mewn print!

Hysbysebu & Hybu

Mae’r Goriad yn falch o groesawu hybysebion am eich busnes, eich cymdeithas, eich gweithgaredd, neu eich gwasanaethau. Yr unig reol yw bod yn rhaid i’r hysbysebion fod yn Gymraeg! Peidiwch â becso nad yw eich Cymraeg yn berffaith! Rydym yn fodlon i gyfieithu eich hysbyseb i’r Gymraeg am ddim! Gweler isod prisiau’r hysbysebion yn ôl eu maint:

Tudalen llawn: UD$100
½ Tudalen: UD$60
¼ Tudalen: UD$35
⅙ Tudalen: UD$20
⅛Tudalen: UD$15

Ar hyn o bryd, bydd y Goriad yn cael ei ryddhau yn rhad ac am ddim ar grwpiau Facebook a thrwy e-bost yn cyrraedd rhyw 2,000 o bobl bob mis. Am fwy o fanylion, gyrrwch neges at Robert Jones, Golygydd ar goriad@curiosityshop.us. Os ydych chi am hybu’r project hwn, gallwch chi fynd i https://patreon.com/GoriadyGorllewin a dod yn ‘patreon’ i’n helpu ni!